Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant – Canfyddiadau interim

Adroddiad thematig


Mewn ymateb i sawl marwolaeth drasig ymhlith plant ledled Cymru a Lloegr, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arwain adolygiad cyflym amlasiantaethol o'r penderfyniadau a wneir mewn perthynas ag amddiffyn plant.

Nod yr adolygiad hwn yw penderfynu i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod enwau plant yn cael eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, ac yn cael eu tynnu oddi arni, yn briodol, pan fydd tystiolaeth ddigonol yn nodi ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny.

Sefydlwyd tîm amlasiantaethol gyda chynrychiolaeth o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn ym mis Rhagfyr 2022 er mwyn sicrhau bod dull cyson a thrylwyr yn cael ei roi ar waith ar gyfer y darn o waith pwysig hwn. Cyfrannodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) hefyd at agweddau o'r adolygiad hwn.

Download the full report

Download the full report
Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant - Canfyddiadau interim - Estyn