Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profi adau niweidiol yn ystod plentyndod

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae hefyd yn edrych ar effeithiolrwydd y cydweithio rhwng y sector addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill i gefnogi’r disgyblion hyn a’u teuluoedd.Mae’r adroddiad yn ystyried strategaethau ysgolion i gefnogi disgyblion sy’n profi, neu wedi profi, trawma neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae astudiaethau achos yn dangos sut mae darparwyr wedi datblygu arfer sy’n cael ei llywio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gefnogi’r disgyblion hyn, yn ogystal ag i feithrin gwydnwch a chryfder emosiynol ymhlith yr holl ddisgyblion yn eu hysgolion.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Ddarparu cymorth targedig a chymorth ysgol gyfan i ddisgyblion agored i niwed, mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill, ar sail dealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar blant
  • A2 Blaenoriaethu meithrin perthynas ymddiriedus a chadarnhaol gyda theuluoedd, sy’n eu hannog i rannu gwybodaeth bwysig gyda’r ysgol
  • A3 Sicrhau bod mannau tawel, anogol a chefnogol ar gael yn briodol i bob disgybl agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac yn arbennig i ddisgyblion uwchradd hŷn
  • A4 Rhoi hyfforddiant a chymorth i holl staff ysgolion uwchradd, nid dim ond staff sy’n gwneud gwaith bugeiliol, i ddeall eu rôl fel oedolion ymddiriedus posibl i ddisgyblion agored i niwed
  • A5 Sefydlu mecanweithiau i rannu gwybodaeth am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn gyfrinachol ac yn sensitif, gyda staff perthnasol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Rannu gwybodaeth berthnasol am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn brydlon gydag ysgolion
  • A7 Cynorthwyo ysgolion i ddatblygu strategaethau sy’n ystyriol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn cefnogi disgyblion agored i niwed

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Hyrwyddo Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru ac annog rhannu gwybodaeth am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn amserol gydag ysgolion

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn