Addysgu medrau cyfathrebu
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Canolfan Addysg Gwenllian yn ysgol ddydd arbennig annibynnol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu gyflwr cysylltiedig. Mae’r disgyblion rhwng 5 ac 19 mlwydd oed.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu’r profiadau a’r cyfleoedd addysgol unigol gorau posibl i ddisgyblion, a sicrhau bod y rhain yn gwella eu bywydau.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r holl ddisgyblion yn yr ysgol yn cael anawsterau sylweddol gyda chyfathrebu. Mae hyn yn amrywio o ddisgyblion heb unrhyw leferydd neu ffurf o gyfathrebu, i ddisgyblion â llawer o fedrau cadarnhaol ac iaith helaeth, ond sy’n arddangos anawsterau wrth ryngweithio gydag eraill a meistroli medrau cymdeithasol, er enghraifft wrth gymryd eu tro, gofyn am gymorth neu gyd-drafod. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi dangos ymddygiadau heriol yn flaenorol, fel ymddygiad ymosodol tuag at ei gilydd, dinistrio eiddo a hunan-niweidio.
I lawer o ddisgyblion yr ysgol, mae ystod eang o ddulliau traddodiadol i ddatblygu’u cyfathrebu (er enghraifft systemau cyfnewid lluniau, arwyddo, gwrthrychau cyfeirio, switshis, dyfeisiau allbwn llais, byrddau dewisiadau, a thechnoleg gynorthwyol lleferydd neu arwyddo) wedi bod yn aflwyddiannus yn y gorffennol yn aml. O ganlyniad, penderfynodd uwch reolwyr ganolbwyntio ar gryfderau unigol disgyblion a’u dull cryfaf o ddysgu, yn cynnwys dulliau gweledol, cinesthetig a chlywedol, i ysgogi a chymell eu diddordeb mewn cyfathrebu.
Nodau hirdymor yr ymagwedd hon yw:
- Lleihau ymddygiadau sy’n herio trwy gynyddu cyfathrebu gweithredol
- Galluogi disgyblion i ofyn yn annibynnol am yr hyn maent ei eisiau a’i angen
- Cynorthwyo disgyblion i gyfathrebu gan ddefnyddio lleferydd
- Parhau i ddatblygu medrau cyfathrebu disgyblion trwy gynyddu’u geirfa a’u cystrawen
- Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu cyfathrebu mwy datblygedig, fel gofyn cwestiynau
Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd
Datblygodd yr uwch dîm rheoli fframwaith i gynorthwyo staff i addysgu medrau cyfathrebu i’r disgyblion. Mae’r fframwaith yn amlygu meysydd allweddol i’w hystyried ar gyfer disgyblion unigol a siart llif o’r camau sy’n ofynnol i ddatblygu’u medrau. Mae’r model yn sicrhau bod cyfathrebu’r staff yn weithredol ac yn effeithlon er mwyn i ddisgyblion ddatblygu’u medrau yn gyflym.
Asesiad cychwynnol
Mae hyn yn dangos i staff beth yw’r modd cyfathrebu effeithiol mwyaf tebygol ar gyfer pob disgybl. Ar gyfer disgyblion di-eiriau, dull mwyhaol o gyfathrebu yw hyn bron bob amser.
Deall a datblygu cymhelliant disgyblion i ymateb
Er mwyn datblygu cyfathrebu, mae’n bwysig bod amser yn cael ei dreulio yn datblygu hoff eitemau neu weithgareddau y mae cymhelliant gan y disgybl i ymgysylltu â nhw. Wrth ddatblygu’r eitemau hyn, mae’r ysgol eisiau sicrhau eu bod yn bodloni ystod o gymhellion fel rhai clywedol, gweledol, bwytadwy, yn seiliedig ar symud ac ati. Mae’n bwysig bod ystod eang o hoff eitemau gan y disgybl, felly os yw’n syrffedu ar un eitem, mae yna eitemau eraill y gall barhau i ofyn amdanynt.
Rheoli’r amgylchedd
Pan fydd hoff eitemau a gweithgareddau wedi’u nodi, mae’n bwysig bod mynediad y disgybl at yr eitemau yn cael ei reoli. Mae hyn oherwydd na fydd gan y disgybl unrhyw gymhelliant i ofyn am yr eitemau os oes ganddo fynediad rhydd iddynt. Gellir rheoli eitemau drwy eu storio ar silffoedd, mewn bagiau bwyd clir neu focsys plastig, er enghraifft.
Hyfforddiant cyfathrebu
Pan fydd mynediad y disgybl at yr eitemau ysgogol wedi’i reoli, mae’r ysgol yn dechrau hyfforddiant cyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i’r disgybl samplu’r eitemau sy’n cael eu cynnig er mwyn sefydlu pa un y byddai’n well ganddo ryngweithio ag ef. Bydd y strategaethau penodol a’r math o sbardunau a ddefnyddir yn dibynnu ar y dull cyfathrebu sydd i’w addysgu (h.y. cyfnewid lluniau, arwyddo ac ati). Mae methodoleg yr ysgol yn cynnwys lleihau’r defnydd o sbardunau’n raddol dros dreialon olynol. Er mwyn sicrhau llwyddiant yn ystod cyfnod yr hyfforddiant, caiff y disgybl ei amlygu i gannoedd o dreialon trwy gydol y dydd.
Cyfathrebu fel blaenoriaeth
Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth i hyfforddiant cyfathrebu ar gyfer disgyblion yn yr ysgol. Mae’r rhan fwyaf o sesiynau dysgu yn cynnwys ffocws ar gyfathrebu. Gall y medrau a’r ffocws amrywio, ond bydd datblygu cyfathrebu yn golygu y bydd goblygiadau pwysig ar gyfer dysgu mewn meysydd eraill.
Cysondeb a chyffredinoli
Caiff staff eu hannog i roi’r hyfforddiant ar waith yn gyson a chywir. Trwy gydol y dydd, darperir cannoedd o gyfleoedd i’r disgybl ymarfer gofyn am eitemau neu weithgareddau. Mae’r ysgol yn sicrhau bod y disgybl yn trosglwyddo’r medr o ofyn am yr eitem y mae wedi’i dewis ar draws amryfal amgylcheddau, gyda hoff eitemau neu weithgareddau gwahanol a gydag ystod o staff.
Monitro cynnydd a defnyddio data i gynllunio camau nesaf
Mae cofnodi a gwerthuso data i gynllunio camau nesaf disgybl yn agwedd allweddol ar ddatblygu’u cyfathrebu. Mae’r ysgol yn cofnodi nifer y ceisiadau a sbardunwyd a’r ceisiadau annibynnol a wneir fesul diwrnod, ac yn rhoi’r canlyniadau ar graff. Mae’n dadansoddi’r data i wirio a yw’r ymyriad yn gweithio dros gyfnod. Dylai fod cynnydd mewn ceisiadau annibynnol a gostyngiad mewn ceisiadau a sbardunwyd. Os nad oes, caiff unrhyw rwystrau posibl sydd wedi atal y disgybl rhag gwneud cynnydd eu hystyried, a chaiff dulliau neu’r eitemau neu wrthrychau cymhellol eu haddasu.
Datblygu lleferydd
Pan fydd cyfathrebu wedi cychwyn ac mae’r disgybl yn gwneud cannoedd o geisiadau annibynnol y diwrnod heb gael ei sbarduno, mae’r ysgol yn dechrau datblygu cynhyrchu lleferydd y disgybl. Mae ymagwedd tîm amlddisgyblaeth, yn cynnwys athro dosbarth, therapydd lleferydd ac iaith a dadansoddwr ymddygiad yr ysgol, yn sicrhau bod staff yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio rhaglen unigol er mwyn annog, atgyfnerthu a llywio lleferydd disgyblion a datblygu caffael iaith.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?
Mae cyflwyno’r fframwaith cynllunio cyfathrebu wedi effeithio ar y meysydd canlynol:
Cyfathrebu
Mae’r holl ddisgyblion wedi gwneud gwelliant sylweddol gyda’u medrau cyfathrebu. Gall bron yr holl ddisgyblion symbylu ceisiadau a sgyrsiau gyda llai o gymorth. Maent yn cyfathrebu’n fwy rheolaidd trwy gydol y diwrnod ysgol. Maent yn fwy hyderus wrth gyfathrebu ac yn cyffredinoli medrau i gynulleidfa ac amgylcheddau ehangach.
Bu cynnydd yn nefnydd disgyblion o leferydd ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion di-eiriau yn lleisio’n fwy cyson a rheolaidd. Erbyn hyn, mae ychydig o ddisgyblion yn dweud geiriau’n annibynnol ac yn defnyddio geiriau i gyfathrebu. Mae’r disgyblion hyn yn fwy ymwybodol o’i gilydd, ac mewn rhai achosion maent yn fwy parod i oddef bod gyda’i gilydd. Mae ychydig iawn o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd sylweddol a bellach gallant fwynhau cwmni eu cyd-ddisgyblion yn y dosbarth.
Ymddygiad
Am fod medrau cyfathrebu disgyblion wedi gwella, ceir gostyngiad amlwg yn eu hymddygiadau annymunol. Yn gyffredinol, mae disgyblion yn fwy tawel ac yn llai rhwystredig. Caiff hyn, yn ei dro, effaith gadarnhaol ar draws yr ysgol am fod yr ymddygiad cadarnhaol yn cyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol a thawel.
Annibyniaeth
Mae datblygu medrau cyfathrebu yn galluogi disgyblion i gael mwy o reolaeth o ran llawer o agweddau ar eu diwrnod ysgol a thu hwnt.
Cydweithredu, dysgu gwell a datblygu medrau
Wrth i gyfathrebu wella, mae disgyblion yn dysgu ymgysylltu a chydweithredu â staff yr ysgol. Maent yn cysylltu â’u dysgu’n effeithiol ac yn cyflawni’r wybodaeth a’r medrau i gefnogi eu dyfodol.
Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda trwy weithdai ar gyfer rhieni a thrwy annog ysgolion eraill i arsylwi’r ddarpariaeth sydd ar waith. Mae gweithdai agored ar gael i ysgolion, rhieni a lleoliadau eraill i rannu ein harfer dda. Mae staff arbenigol ar gael i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion a theuluoedd i gynorthwyo â datblygu cynlluniau cyfathrebu yn seiliedig ar ein harfer ni.