Addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn addysg bellach
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai colegau addysg bellach:
- A1 Weithio’n fwy effeithiol gydag ysgolion uwchradd i nodi dysgwyr sy’n siarad Cymraeg cyn iddynt drosglwyddo i’r coleg a sicrhau bod yr holl wybodaeth am gymorth sydd ei hangen arnynt gan ddysgwyr er mwyn eu galluogi i ddewis i barhau â’u dysgu yn Gymraeg
- A2 Cryfhau cynlluniau strategol Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dysgu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, yn enwedig yn y meysydd galwedigaethol y mae galw cynyddol am fedrau dwyieithog ynddynt gan gyflogwyr
- A3 Sicrhau bod digon o staff ar gael ym mhob coleg i ddarparu cyrsiau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog a chefnogi staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella’u Cymraeg
- A4 Gwella hyfforddiant staff ar y fethodoleg addysgu’n ddwyieithog, a sicrhau bod digon o adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
- A5 Sicrhau bod gwybodaeth am allu iaith dysgwyr, cymwysterau blaenorol yn Gymraeg a gweithgareddau dysgu wedi’u cofnodi’n gywir yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A6 Helpu colegau i wella ansawdd cynlluniau strategol iaith Gymraeg, gan gynnwys defnyddio data i osod targedau heriol er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn eu cyrsiau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
- A7 Cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynnydd a wneir gan golegau yn erbyn y targedau yn eu cynlluniau strategol
- A8 Gwella meysydd casglu data, a’u canllawiau cysylltiedig, er mwyn sicrhau bod colegau’n cofnodi gwybodaeth gywir am alluoedd ieithyddol dysgwyr ac iaith dysgu ac asesu yn ôl gweithgaredd
- A9 Datblygu strategaeth genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth dysgwyr o fanteision dewis parhau i ddysgu yn Gymraeg pan fyddant yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg
- A10 Sicrhau bod digon o adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog