Addysg wyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19 oed - Mai 2008 - Estyn

Addysg wyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19 oed – Mai 2008

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd:

  • ddarparu hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol i wella eu gwybodaeth bynciol ac addysgeg; a
  • chynyddu’r cydweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod, gyda’i gilydd, yn cynnig ystod lawn o ddewisiadau gwyddoniaeth i fodloni anghenion pob dysgwr 14-19 ac yn gwneud defnydd mwy effeithiol o athrawon arbenigol.

Dylai rhwydweithiau 14-19:

  • annog mwy o gydweithio rhwng darparwyr i gynnig ystod eang o lwybrau mewn gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19, yn cynnwys llwybrau cymhwysol a galwedigaethol; a
  • gwneud yn siŵr bod cydlynwyr Llwybrau Dysgu 14-19 ac anogwyr dysgu yn deall y llwybrau posibl mewn gwyddoniaeth yn llawn a’u bod yn rhoi cyngor llawn a diduedd i ddysgwyr.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth addysg wyddoniaeth i Gymru a fydd yn cynnig symbyliad arwyddocaol i wella safonau ac ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth ac yn y gwyddorau ffisegol yn arbennig; a
  • chefnogi datblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer penaethiaid gwyddoniaeth ac ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion amrywiol.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn