Addysg Heblaw yn yr Ysgol: arolwg arfer dda – Mehefin 2015
Adroddiad thematig
Cyhoeddwyd yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith Gweinidogol i Estyn ar gyfer 2014-2015. Dyma yw nodau’r adroddiad: nodi enghreifftiau o arfer dda mewn strategaethau ymyrraeth gynnar o ysgolion cynradd ac uwchradd, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), ac awdurdodau lleol, sy’n ceisio lleihau nifer y disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol nodi enghreifftiau o arfer dda mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol mewn perthynas â’r canlynol cwricwla sy’n bodloni anghenion pob disgybl, strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli ymddygiad/dulliau ar gyfer lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg heblaw yn yr ysgol, a strategaethau effeithiol ar gyfer ailintegreiddio.
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol, ysgolion ac UCDau:
- gael strategaeth y cytunwyd arni’n lleol i gefnogi’r holl ddisgyblion sy’n agored i niwed fel eu bod yn aros mewn addysg amser llawn
- nodi disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio yn gynnar a rhoi ymyriadau priodol ac amserol ar waith
- cydweithio i gynyddu ystod yr opsiynau a’r profiadau dysgu sydd ar gael i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
Dylai awdurdodau lleol:
- sicrhau bod gan yr holl randdeiliaid ddealltwriaeth glir o rôl UCDau a mathau eraill o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol mewn continwwm o ddarpariaeth, a bod y darpariaethau hyn yn cynnwys meini prawf mynediad ac ymadael clir
- penodi staff UCD sydd â phrofiad ac arbenigedd priodol mewn arweinyddiaeth, addysgu a dysgu yn ogystal â rheoli ymddygiad
- sicrhau bod pob un o staff UCDau yn cael yr un cyfleoedd hyfforddi a datblygu â staff mewn ysgolion prif ffrwd
- gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i ddarparu cymorth a her gadarn i reolwyr a phwyllgorau rheoli UCD
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddarparu arweiniad fframwaith ar rôl UCDau fel rhan o gontinwwm o ddarpariaeth
- ystyried cyflwyno cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon sydd â gofal am UCDau
- sicrhau bod staff UCDau yn elwa ar strategaethau cenedlaethol i wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg