Addysg heblaw yn yr ysgol - Estyn

Addysg heblaw yn yr ysgol

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 gryfhau’r arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion ynghylch y gofyniad i:
    • hysbysu Llywodraeth Cymru am yr holl addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn ei darparu neu ei chomisiynu, gan gynnwys canolfannau addysgu, UCDau a darpariaeth annibynnol
    • cynnal cofnodion o’r holl ddisgyblion sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rhai sy’n derbyn darpariaeth amgen a drefnwyd gan ysgolion yn annibynnol ar eu hawdurdod lleol
    • cynnal cofnodion o nifer y disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, sy’n mynd ymlaen i beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
    • gwella’r gallu i droi at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ac asiantaethau arbenigol eraill i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • A2 cyhoeddi data cyrhaeddiad a phresenoldeb ar gyfer dysgwyr mewn addysg heblaw yn yr ysgol ar lefel yr awdurdod lleol
  • A3 ystyried diwygio’r trothwy i ddarparwyr gofrestru’n ysgolion annibynnol
  • Dylai awdurdodau lleol:
  • A4 hysbysu Llywodraeth Cymru am yr holl ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn ei darparu neu’n ei chomisiynu
  • A5 gwirio’n ofalus statws cofrestru pob darparwr y maent yn eu defnyddio i sicrhau, lle y bo’n briodol, bod y ddarpariaeth y maent yn ei chomisiynu wedi’i chofrestru’n ysgol annibynnol gyda Llywodraeth Cymru
  • A6 sicrhau bod ysgolion yn deall gweithdrefnau cyfeirio at addysg heblaw yn yr ysgol a chynnwys y gofyniad bod gwybodaeth asesu a gwybodaeth arall yn trosglwyddo’n brydlon o’r ysgol i’r darparwr addysg heblaw yn yr ysgol
  • A7 monitro ansawdd yr holl ddarpariaeth amgen sy’n cael ei darparu neu ei chomisiynu ar gyfer disgyblion yn eu hawdurdod lleol, gan gynnwys darpariaeth wedi’i threfnu gan ysgolion neu drwy Rwydweithiau 14-19
  • A8 rhoi addysg addas i ddisgyblion o fewn 15 niwrnod o benderfynu y dylai disgybl gael addysg heblaw yn yr ysgol
  • A9 darparu cwricwlwm amser llawn i bob disgybl sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol sy’n bodloni eu hanghenion, yn eu galluogi i gyflawni eu potensial ac yn sicrhau eu bod yn cael eu hailintegreiddio lle bynnag y bo’n bosibl
  • A10 darparu addysg heblaw yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion sydd wedi derbyn eu haddysg yn Gymraeg
  • A11 bodloni’r gofyniad statudol i sicrhau bod disgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig yn cael y cymorth sydd wedi’i gofnodi ar eu datganiad neu eu Cynllun Datblygu Unigol
  • A12 rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol am addysg heblaw yn yr ysgol i aelodau etholedig fel y gallant farnu ei heffeithiolrwydd a’i gwerth am arian

Dylai ysgolion:

  • A13 weithio’n agos gyda’u hawdurdod lleol a rhoi gwybodaeth gynhwysfawr, amserol iddo am yr holl ddisgyblion y mae’r ysgol yn eu cyfeirio am addysg heblaw yn yr ysgol a darpariaeth amgen, gan gynnwys trwy Rwydweithiau 14-19
  • A14 gwirio’n ofalus statws cofrestru pob darparwr a ddefnyddiant a chadarnhau a ddylai’r darparwr fod wedi cofrestru os nad ydyw
  • A15 sicrhau bod darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol sy’n addysgu disgyblion o’u hysgol yn cael gwybodaeth o ansawdd da am anghenion dysgu ac ymddygiad disgyblion
  • A16 cadw mewn cysylltiad â disgyblion o’u hysgol sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, monitro cynnydd y disgybl, gan gynnwys perfformiad academaidd, a’i ailintegreiddio lle bynnag y bo modd
  • A17 gweithio’n agos gyda darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol i sicrhau parhad yn y cwricwlwm i ddisgyblion o’u hysgol

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn