Addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 Gynnal adolygiad strwythurol o ddarpariaeth AGA AHO, sy’n ystyried y themâu sy’n dod i’r amlwg a nodir yn yr adroddiad hwn ac anghenion datblygu ehangach y gweithlu
  • A2 Sicrhau y caiff data sy’n ymwneud â nifer, deilliannau a chyrchfannau hyfforddeion ar raglenni AGA AHO ei gasglu a’i gyhoeddi’n rheolaidd
  • A3 Brocera cyfleoedd i arweinwyr cyrsiau a staff cyflwyno mewn SABau a SAUau i ddatblygu rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar addysgeg AGA AHO
  • A4 Datblygu cymhelllion i annog hyfforddeion i addysgu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Dylai darparwyr:

  • A5 Wella darpariaeth mentora i hyfforddeion AGA
  • A6 Cynyddu’r cyfleoedd i hyfforddeion ymgymryd â’u profiad addysgu a chwblhau agweddau ar eu rhaglen hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
  • A7 Sicrhau bod pob hyfforddai yn cael lleoliadau profiad addysgu o ansawdd uchel sy’n cynnig cyfleoedd iddynt arsylwi arfer addysgu gref a datblygu medrau addysgu cynhwysfawr
  • A8 Sicrhau bod pob rhaglen AGA AHO yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion yr ystod lawn o hyfforddeion
  • A9 Sicrhau y caiff rhaglenni eu llunio ar y cyd, gan ystyried anghenion hyfforddeion mewn SAUau a SABau, ac mewn ymgynghoriad â chyflogwyr AHO.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn