Addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3
Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’r adroddiad yn arfarnu safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth mewn addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Nid yw’n cwmpasu addysg grefyddol mewn ysgolion enwadol, annibynnol nac arbennig.
Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu safonau mewn addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3, a chyfranogiad mewn dysgu ac ymgysylltiad ag ef. Mae hefyd yn ystyried y ffactorau sy’n effeithio ar safonau, gan gynnwys cynllunio’r cwricwlwm, addysgu, asesu, arweinyddiaeth a gwella ansawdd.
Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, ac aelodau o’r Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau)1. Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn helpu llywio datblygu a gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru hefyd.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
A1 Sicrhau bod disgyblion mwy abl yn cyflawni yn unol â’u gallu mewn addysg grefyddol
A2 Cryfhau trefniadau monitro a hunanarfarnu yng nghyfnod allweddol 2 i ganolbwyntio ar wella safonau a medrau disgyblion mewn addysg grefyddol
A3 Cryfhau trefniadau pontio fel bod profiadau dysgu yng nghyfnod allweddol 3 yn adeiladu ar y rheiny yng nghyfnod allweddol 2 ac yn osgoi ailadrodd gwaith
A4 Arfarnu eu cwricwlwm ar gyfer addysg grefyddol i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu Maes Dysgu a Phrofiad newydd y Dyniaethau
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A5 Weithio gyda CYSAGau i ddarparu:
a. cyfleoedd dysgu proffesiynol addas ar gyfer athrawon addysg grefyddol
b. cymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer addysg grefyddol fel rhan annatod o ddatblygu maes dysgu a phrofiad y dyniaethau
c. cyngor i ysgolion ar sut i fynd i’r afael â materion sensitif gyda disgyblion a sut i ddelio â phryderon rhieni ar ymweld â mannau addoli
A6 Sicrhau bod pob arweinydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
A7 Rhoi arweiniad i ysgolion ar leoedd addoli cymeradwy i ymweld â nhw
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a CYSAGau i sicrhau bod eglurder ynglŷn â lle addysg grefyddol o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau