Argymhellion
Dylai adrannau addysg gorfforol:
- wneud yn siŵr bod gwersi yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion gadw’n gorfforol egnïol ac ymgymryd â gweithgarwch corfforol cynaliadwy; a
- cynnig gweithgareddau dysgu a fydd yn galluogi disgyblion o bob gallu i wneud cynnydd, ac yn benodol, cynnig her addas i ddisgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3.
Dylai awdurdodau lleol:
- wella’r cymorth a’r cyngor ar gyfer ymarferwyr addysg gorfforol a hyrwyddo arfer orau;
- defnyddio menter 5×60 i hyrwyddo cysylltiadau mwy effeithiol gyda chlybiau a sefydliadau lleol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a hamdden gorfforol; a
- sicrhau cywirdeb a chysondeb gwell wrth farnu lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried y ffordd orau o gynnal arfer ac effaith dda AGChY a mentrau 5×60.