Addysg gorfforol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu: nodi arfer dda – Chwefror 2009
Adroddiad thematig
Yn yr ysgolion y gwnaed arolwg ohonynt, mae safonau mewn Addysg Gorfforol i lawer o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn dda neu’n dda iawn. Bron ym mhob un o’r ysgolion hyn, arweiniodd disgwyliadau uchel mewn addysgu at gyflawniad uchel gan ddysgwyr. Mae disgyblion yn aml yn gwneud cynnydd da iawn mewn perthynas â’u gallu a’r cyd-destun y maent yn dysgu ynddo.Nododd arolygwyr fod arfer orau mewn tua 40% o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw. Fodd bynnag, mewn rhai ysgolion, nid oes gan athrawon wybodaeth bynciol ddigonol i gynllunio tasgau i herio disgyblion yn effeithiol. Mae hyn yn golygu nad yw’r dysgu yn gynhyrchiol a bod disgyblion yn colli diddordeb yn hawdd.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried y ffordd orau o ymestyn yr arfer dda yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg gorfforol a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Dylai awdurdodau lleol:
- gymryd camau i raeadru’r arfer dda mewn addysg gorfforol mewn ysgolion arbennig i arweinwyr a rheolwyr, ac athrawon addysg gorfforol mewn ysgolion prif ffrwd; a
- sicrhau bod cyfleoedd priodol ar gyfer datblygiad proffesiynol ar gael i helpu pob un o’r staff i fodloni anghenion a chodi safonau cyflawniad ar gyfer pob disgybl ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg gorfforol.
Dylai ysgolion:
- weithio gydag awdurdodau lleol i rannu’r arfer orau;
- sicrhau bod pob disgybl ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd yn cael ei integreiddio’n briodol mewn dosbarthiadau addysg gorfforol prif ffrwd; a
- gwella ansawdd yr asesu a’r gosod targedau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg gorfforol.