Addewid Caerdydd – Codi dyheadau, uchelgeisiau a deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc - Estyn

Addewid Caerdydd – Codi dyheadau, uchelgeisiau a deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc

Arfer effeithiol

Cardiff Council


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ym mis Ionawr 2016, lansiodd y Cyngor ‘Addewid Caerdydd’ ar gyfer plant a phobl ifanc y ddinas, gan ddarparu strategaeth drosfwaol ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc a’u cynnydd yng nghyd-destun uchelgeisiau ehangach er ffyniant cymdeithasol ac economaidd Caerdydd yn y dyfodol.

Mae’r strategaeth yn amlinellu sut byddai Cyngor Caerdydd, ar y cyd ag ysgolion ac amrywiaeth eang o bartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn ceisio codi uchelgeisiau, cynyddu cyfleoedd ac, yn y pen draw, sicrhau cyrchfan gadarnhaol ar gyfer pob person ifanc yng Nghaerdydd ar ôl addysg statudol.

Dechreuwyd Addewid Caerdydd i ymateb i gynnydd yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn y ddinas, ar adeg pan mai canran y bobl ifanc NEET wedi iddynt adael Blwyddyn 11 yng Nghaerdydd oedd y gwaethaf yng Nghymru. Roedd yn amlwg iawn fod yr ymagwedd at gynorthwyo pobl ifanc yn rhy gul o lawer, a bod gweithredu gan yr awdurdod lleol i ddarparu cymorth pontio i ddisgyblion ar ddiwedd addysg ffurfiol yn rhy hwyr ac yn rhy gyfyngedig.

Cydnabu’r Cyngor fod angen defnyddio cyfalaf cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Caerdydd i sicrhau cyfleoedd a datblygu partneriaethau hirsefydledig ar ran plant a phobl ifanc yn y ddinas. Ffurfiwyd Grŵp Arweinyddiaeth Strategol Addewid Caerdydd, sy’n cael ei gadeirio gan Brif Weithredwr y Cyngor, ac mae wedi parhau i ddarparu cyfeiriad i’r bartneriaeth hon ledled y ddinas hyd yn hyn. Mae’r bartneriaeth arloesol ac unigryw hon yn ymdrechu i ‘agor llygaid a drysau, gan ddangos i blant a phobl ifanc yr amrywiaeth helaeth o bosibiliadau sy’n agored iddyn nhw ym mhrifddinas Cymru a thu hwnt’.

Mae’r bartneriaeth wedi adeiladu’n raddol dros y pum mlynedd ddiwethaf, gan alluogi’r cyrhaeddiad i ymestyn i’r sector cynradd a bod â mwy o ffocws mewn cymunedau uwchradd.

Datblygwyd ymagwedd ddarbodus, gyda thîm cydlynu bach yn ganolog iddi, sy’n gwbl ddibynnol ar gydweithio a phartneriaeth. Penodwyd Rheolwr y Rhaglen ym mis Tachwedd 2019. Erbyn hyn, mae cyfraniadau i’r rhaglen yn ymestyn ar draws sawl un o adrannau’r Cyngor ac allan i’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol ehangach, fel y dangosir yn y fframwaith llywodraethu.

Mae’r ymagwedd hon yn galluogi rhaglenni cyffredinol a thargedig i weithio gyda’i gilydd a pharhau i ganolbwyntio ar y weledigaeth gyffredin, sef y dylai pob plentyn sy’n tyfu i fyny yng Nghaerdydd gael cyfle cyfartal i gyflawni ei botensial. Mae’r weledigaeth yn cydnabod ei bod yn bwysig i’r daith at annibyniaeth fod yn gontinwwm y dylid ei feithrin o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, a thrwodd i addysg ôl-16, hyfforddiant a chyflogaeth.

Er bod rhai o ymagweddau’r bartneriaeth yn gyffredinol, mae rhaglenni gwaith targedig wedi eu cyfeirio at ran ddeheuol y ddinas lle mae anfantais yn fwy amlwg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Caiff prosiectau sbarduno, a arweinir gan y tîm craidd ac a gynhelir gydag ysgolion, eu nodi trwy wybodaeth am ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd), plant sy’n derbyn gofal mewn addysg (LACE), disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), data ar gynnydd disgyblion a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Nod ardaloedd sbarduno Addewid Caerdydd yw cael y budd a’r gwerth mwyaf o bartneriaethau, a cheisio darparu ymagweddau cynaliadwy i ysgolion a chyflogwyr. Mae Blaengynllun ac Adroddiadau Blynyddol Addewid Caerdydd yn darparu tystiolaeth a mwy o fanylion am y blaenoriaethau craidd.

Mae’r Uwch Reolwr Polisi ar gyfer Llywodraeth Cymru – STEM, Cwricwlwm ac Asesu wedi dangos bod Addewid Caerdydd yn “enghraifft o arferion da o ran y cysylltiadau sydd wedi cael eu datblygu rhwng ysgolion a lleoliadau a diwydiant. Mae yna uchelgais glir i sicrhau bod addysg gyrfaoedd yn cael ei hymgorffori ar draws pob maes o’r cwricwlwm trwy ddarparu amrywiaeth eang o brofiadau ac amgylcheddau dysgu perthnasol yn gysylltiedig â gwaith. Bydd hyn yn helpu paratoi dysgwyr ar gyfer heriau a chyfleoedd dysgu pellach a’r byd gwaith, sy’n esblygu’n barhaus.”

Blaenoriaeth 2, Profiadau Gwaith yw ymagwedd Addewid Caerdydd at ddatblygu cynnig profiadau yn gysylltiedig â gyrfa a gwaith (CWRE) sy’n gweithio i ysgolion a chyflogwyr. Mae manteision y rhaglen yn cynnwys ymagwedd gydlynus a chydweithredol at brofiadau gwaith sy’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau rhanddeiliaid. Mae hyn yn symud i ffwrdd oddi wrth weithgareddau CWRE ad hoc ac yn symud tuag at gyflenwi ystyrlon mewn cyd-destun. Mae’n ymagwedd a arweinir gan anghenion a ddatblygwyd mewn partneriaeth ac sy’n gweddu i ddemograffeg ysgolion. Mae’n cynyddu ymwybyddiaeth disgyblion, ysgolion a rhieni / gofalwyr am lwybrau gyrfa a medrau rhanbarthol ac yn datblygu ymwybyddiaeth i rieni / gofalwyr ynghylch llwybrau addysg a gyrfa ar gyfer eu plant. Mae’r rhaglen yn herio rhwystrau yn gysylltiedig â symudedd cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol, anableddau a stereoteipiau rhywedd a hil.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ymchwil genedlaethol a lleol helaeth i addysg a chyflogaeth yn sail i’r ymagweddau a ddilynir gan Addewid Caerdydd. Rhagwelir y bydd effaith y bartneriaeth yn y tymor canolig i’r tymor hwy yn arwain at gyflawniad addysgol gwell mewn pynciau allweddol (yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf dan anfantais), dewisiadau gyrfa mwy gwybodus gan bobl ifanc, cyfraddau gwell o ran cadw dysgwyr mewn darpariaeth ôl-16, capasiti medrau gwell mewn sectorau twf allweddol, lles gwell ar gyfer pobl ifanc, a ffyniant cymdeithasol ac economaidd gwell i’r ardal, yn y pen draw.

Mae adborth ansoddol cadarnhaol gan gyflogwyr, athrawon, plant a phobl ifanc yn galonogol iawn ac mae tystiolaethau ac astudiaethau achos wedi’u cynnwys mewn tystiolaeth er gwybodaeth. Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi sôn am yr “amrywiaeth ragorol o brofiadau sy’n cael eu cynnig i ddisgyblion gan Addewid Caerdydd”, ac mae Ysgol Uwchradd Willows wedi rhestru’r manteision y mae “cysylltiadau cryfach a mynediad cryfach at ddarparwyr a chysylltiadau AB” yn eu darparu ar gyfer disgyblion. Hefyd, dangosodd Ysgol Uwchradd Cathays eu bod “yn edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau cryf gyda phartneriaid, sy’n darparu cyfleoedd i’n disgyblion a’n hathrawon ddatblygu’r wybodaeth, y medrau a’r profiadau yn gysylltiedig â gwaith sydd eu hangen ar gyfer eu dyfodol”.

Er bod data ansoddol ar gael, mae swyddogion yn cydnabod bod angen monitro hyn yn y tymor hwy. Bydd hon yn ystyriaeth bwysig i’r bartneriaeth wrth i’r gwaith symud yn ei flaen.

Dangosir uchafbwyntiau’r deilliannau a gyflawnwyd isod:

Data Cynnydd yn y sector ôl-16 – NEET Blwyddyn 11

  • Mae data dros dro yn dangos y bydd 2.1% o bobl ifanc (74 o bobl ifanc) sy’n gadael Blwyddyn 11 (16 oed) yn 2020/21 yn cael eu hadnabod fel pobl ifanc NEET, o gymharu â thros 8% yn 2010. Mae’r ffigur dros dro hwn ar gyfer 2021 ychydig yn uwch na chanlyniad 2020 (1.7% / 57 o bobl ifanc).
  • O’r disgyblion sydd wedi eu cofrestru ar brif gofrestr addysg heblaw yn yr ysgol (32 o ddisgyblion), mae data dros dro yn dangos y bydd 27 ohonynt yn symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2020/21 (84.4%). Roedd 15.6% o ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn bobl ifanc NEET (5 disgybl).
  • Mae data dros dro yn dangos, o’r plant sy’n derbyn gofal gan Gyngor Caerdydd ar 31 Mawrth 2021 (83 o ddisgyblion), y bydd 73 yn symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2020/21 (88%) a bydd 12% yn bobl ifanc NEET (10 disgybl).

Enghreifftiau o Adborth Disgyblion 2020/21 – Profiadau Gwaith

  • Wythnosau Profiad Gwaith Rhithwir ac Agorwch Eich Llygaid – Cyfnod Allweddol 3. Cwblhawyd arolwg o 100 o ddisgyblion i werthuso’r profiadau yn erbyn meincnodau Gatsby. Dywedodd 78% o ddisgyblion fod y sesiynau’n rhagorol neu’n dda, dywedodd 88% o ddisgyblion fod y gweithgareddau wedi agor eu llygaid i’r gwahanol rolau a chyfrifoldebau sydd gan fusnesau, a dywedodd 90% o ddisgyblion eu bod yn gwybod ychydig mwy neu lawer mwy am y sector ar ôl cymryd rhan yn y gweithgaredd.
  • Wythnos Agorwch Eich Llygaid, Haf 2020. Yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 14 Mehefin, cynhaliodd Addewid Caerdydd eu Hwythnos Agorwch Eich Llygaid – sef cyfres o ymgysylltiadau busnes dros gyfnod o wythnos gyda deuddeg o fusnesau lletyol o sectorau ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd. Amcangyfrifir bod 150 o ddosbarthiadau o 65 ysgol ar draws rhannau gogleddol a deheuol Caerdydd wedi mynychu’r digwyddiad, gan gyrraedd tua 3,500 o ddisgyblion o Flynyddoedd 5 a 6. Trwy werthusiadau, cawsom wybod mai sesiwn Microsoft a berfformiodd orau ar y cyfan, gyda 44% o bobl ifanc yn teimlo ei bod yn ‘rhagorol’, sy’n anhygoel, a 32% arall yn disgrifio ei bod yn ‘dda’. Cyflwyniad Microsoft oedd un o’r rhai mwyaf poblogaidd a fynychwyd, ac amcangyfrifir bod 95 o ddosbarthiadau a thua 2,300 o ddisgyblion wedi gwylio’r cyflwyniad yn fyw. Nid oedd llawer o bobl ifanc yn ymwybodol o’r cwmnïau lletyol cyn eu sesiynau, a Westfield Technology oedd y cwmni lleiaf hysbys, gyda 57% o bobl ifanc yn ymateb trwy ddweud nad oeddent yn gwybod unrhyw beth am y cwmni o’r blaen, a 74% o ymatebwyr yn dweud eu bod wedi dysgu llawer ar ôl ymgysylltu. Yn ein grwpiau ffocws, dywedodd 33% o ddisgyblion yr hoffent weld digwyddiadau fel Wythnos Agorwch Eich Llygaid yn cael eu hailadrodd bob tymor, a gofynnodd 33% arall amdanynt bob mis, sy’n dangos bod y digwyddiad hwn wedi cael effaith gadarnhaol iawn, ac wedi bod yn brofiad difyr iawn i ddisgyblion.  

Ar gyfer Cyflogwyr yn y Ddinas

Isod, ceir rhai o fanteision uniongyrchol Addewid Caerdydd sydd wedi cael eu hamlygu mewn tystiolaethau cyflogwyr:

  • Addewid Caerdydd yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer busnesau wrth chwilio am gyfleoedd partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc.
  • Mae’n darparu mynediad at wasanaethau cymorth ieuenctid ac ysgolion i hyrwyddo cyfleoedd, adnoddau, ac ati, ar gyfer ysgolion a phobl ifanc ar ran y partner.
  • Mae’n cynorthwyo partneriaid â’u hanghenion a’u hagendâu, h.y. gwella symudedd cymdeithasol ac wedyn cysylltu partneriaid gydag ysgolion ar sail data, h.y. PYDd, LACE, ac ati.
  • Mae’n rhoi enghreifftiau i bartneriaid o sut i ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc – rhannu arfer orau.
  • Mae’n cynorthwyo partneriaid â gwybodaeth / hyfforddiant ar blatfformau ymgysylltu sy’n caniatáu cyrhaeddiad gwell.
  • Trwy ffurfio’r Fforymau Busnes, gall partneriaid weld partneriaethau cyflenwi posibl yn fwy pragmatig, yn enwedig y rhai o fewn rhai o’n diwydiannau cystadleuol iawn.
  • Mae’n darparu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer partneriaid o ran ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc.
  • Mae’n cynorthwyo partneriaid i ymgysylltu â phlant ysgolion cynradd i greu mwy o ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn iau.
  • Mae’r tîm yn bobl hawdd mynd atynt, a gall partneriaid drafod pryderon a syniadau.
  • Mae’n darparu cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid i greu cynnig teilwredig ar y cyd ag eraill.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cyfathrebu a marchnata Addewid Caerdydd yn digwydd mewn sawl ffordd oherwydd yr amrywiaeth o randdeiliaid. Mae hyn yn darparu cyfleoedd nid yn unig i arddangos arfer orau, ond hefyd i ddarparu gwybodaeth am sut mae’r ddinas yn cyflawni’r weledigaeth.

Cylchlythyrau

Mae’r Cylchlythyr misol i Ysgolion yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd y gall y 127 o ysgolion ledled Caerdydd fanteisio arnynt. Mae’r Cylchlythyr Busnes tymhorol yn rhoi gwybod i’n cyflogwyr a’n partneriaid am y gwaith da sy’n digwydd i ddatblygu uchelgais, cyflenwi medrau a chreu cyfleoedd sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc i wneud cynnydd. Mae hyn yn darparu cystadleuaeth iach ledled y ddinas ac yn codi disgwyliadau am yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd i gynorthwyo pobl ifanc i gael addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Addewid Caerdydd ar Waith

Mae’n ffeithlun sy’n arddangos prosiect sy’n cefnogi’r ddinas i gyflawni gweledigaeth Addewid Caerdydd. Caiff ei anfon trwy’r e-bost at gyflogwyr, ysgolion, gwasanaethau cymorth ieuenctid a chynghorwyr, ac ar ôl ei gyhoeddi, mae’r tîm yn aml iawn yn derbyn gohebiaeth gan randdeiliaid sydd eisiau manteisio ar y prosiectau neu gael eu cynnwys mewn cefnogi’r prosiectau.

Cyfryngau Cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn, Twitter

Mae postiadau targedig a noddedig yn darparu ffyrdd o gyfathrebu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid.

Gwefannau

Mae Addewid Caerdydd wedi datblygu a chynnal dwy wefan – Beth Nesaf ac Addewid Caerdydd. Mae Beth Nesaf yn hyrwyddo darpariaeth a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed ledled y ddinas.

Digwyddiadau a Rhwydweithio

Digwyddiadau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn