ADCDF: Cynnydd mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang - Mehefin 2014 - Estyn

ADCDF: Cynnydd mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang – Mehefin 2014

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • wella dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau mwy cymhleth ADCDF a nodwyd yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â hunaniaeth a diwylliant;
  • cynllunio ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r saith thema ADCDF ar draws y cwricwlwm yn raddol, ac asesu ac olrhain datblygiad disgyblion;
  • cynllunio ar gyfer ADCDF i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygu llythrennedd a rhifedd disgyblion;
  • darparu amrywiaeth o gyfleoedd allgyrsiol i gefnogi ADCDF;
  • nodi aelodau o staff i fod â chyfrifoldeb am gydlynu a datblygu ADCDF ar draws yr ysgol;
  • darparu hyfforddiant priodol ar gyfer athrawon ac aelodau eraill o staff i’w helpu i gyflwyno ADCDF yn fwy effeithiol, gan gynnwys ei chysyniadau mwy cymhleth; a
  • sicrhau bod llywodraethwyr yn cael hyfforddiant i’w galluogi i gefnogi a herio’r ysgol wrth gyflwyno ADCDF.

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:

  • sefydlu cyfeirlyfr o ddarparwyr sydd ag arfer dda mewn ADCDF, y gellir ei rannu ag ysgolion; a
  • darparu hyfforddiant i lywodraethwyr i’w galluogi i gefnogi a herio ysgolion yn briodol o ran ADCDF.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn