Adnoddau i gefnogi iaith a llythrennedd mewn ysgolion cynradd
Related content
Share this page
Rydym yn cynorthwyo ysgolion cynradd i ddatblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu plant yn y Gymraeg a’r Saesneg. Defnyddiwch yr adnoddau hyn i ystyried addysgu a dysgu iaith wrth ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru.
Bydd ein cyfres o weminarau’n eich helpu i baratoi ar gyfer addysgu a dysgu iaith wrth ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd awduron ein hadroddiadau’n cyflwyno themâu gwahanol, a bydd ysgolion yn cyflwyno eu harfer effeithiol. Cewch chi ymuno â’r drafodaeth a gofyn cwestiynau hefyd.
Mae cofrestru ar gyfer y tymor hwn ar agor nawr, ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Neilltuwch le’n gynnar i gael lle yn eich gweithdy dewisol.
Datblygu geirfa (Saesneg yn unig)
Trawsieithu (Cymraeg yn unig)
Datblygu ysgrifennu
Persbectif arweinyddiaeth
Rhoddwn wybod i chi pan fydd cofrestru’n agor ar gyfer webinarau'r tymor nesaf.
Adnoddau
Mae’r adroddiadau a’r deunyddiau dysgu proffesiynol hyn yn disgrifio sut i gynorthwyo i ddatblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu plant mewn ysgolion cynradd a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
Maent yn cynnig strategaethau, astudiaethau achos a chameos mewn fformat hawdd ei ddefnyddio.
Os ydych chi’n arweinydd neu’n ymarferydd, defnyddiwch yr adroddiadau hyn i ystyried addysgu a dysgu iaith wrth ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru.