Pan arolygir ysgol neu ddarparwr, byddwn yn casglu safbwyntiau gan eu rhanddeiliaid (neu ‘bobl yn eu cymuned’) fel eu disgyblion, rhieni a gofalwyr eu disgyblion a’u staff a’u llywodraethwyr. Bydd y grwpiau hyn yn derbyn dolen i rannu eu barn mewn holiadur ar-lein.
Mae’n ddrwg gennym, ond ni fyddwn yn gallu derbyn holiaduron papur neu brintiedig.
Nid oes ots gennym a yw darparwyr yn defnyddio’r holiaduron hyn ar gyfer hunanwerthuso mewnol neu os hoffech edrych ar y cwestiynau a ofynnwn.