Adborth ar ein gwaith


Rydym yn ymroi i gynnig gwasanaeth o safon uchel. Ein nod yw cael pethau’n iawn y tro cyntaf.

Mae eich awgrymiadau, eich canmoliaeth a’ch cwynion yn ein helpu i wella ac rydym yn annog adborth gan ein holl randdeiliaid.

Rydym yn casglu safbwyntiau ar ein gwaith a phrofiadau ohono’n rhagweithiol trwy grwpiau ffocws, arolygon a holiaduron yn gysylltiedig ag arolygiadau.

Meysydd sydd wedi’u cynnwys yn ein gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion

Gallwch gwyno am ein gwaith, a gallai hyn gynnwys:

  • safon ac ansawdd yr hyn a wnawn
  • cynnwys ein gwaith
  • ymddygiad aelod o’n staff
  • anghywirdebau penodol

Meysydd nad ydynt wedi’u cynnwys yn ein gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion

Fodd bynnag, mae rhai cwynion na allwn ddelio â nhw:

  • Barnau arolygu sy’n cael eu llunio ar ôl arolygiad neu adolygiad. Mae hyn oherwydd mai’r darparwr sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod, cyn ac yn ystod arolygiad, yn rhannu’r holl dystiolaeth y mae ei hangen i’r tîm arolygu lunio’i farnau yn gywir ac yn deg.
  • Sefydliad yr ydym yn ei arolygu ac yn gweithio gydag ef, fel ysgol. Mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno’r ysgol ei hun yn y lle cyntaf
  • Polisïau sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Ewch i www.llyw.cymru

Rydym yn dilyn dyddiadau cwblhau statudol ar gyfer ein hadroddiadau arolygu, felly ni fyddwn fel arfer yn aros cyn cyhoeddi adroddiad, tra byddwn yn ymchwilio i gŵyn.

Adnoddau eraill

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor ar sut i gwyno am wasanaeth cyhoeddus.

Cysylltu â ni

Robert Gairey
Rheolwr Adborth a Chwynion
02920 446309

Cwestiynau cyffredin ar gyfer Adborth a chwynion

Mae Adran 29 Deddf Addysg 2002 yn gofyn i gyrff llywodraethol yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau o’r fath.

Nid oes dyletswydd statudol ar ysgolion i gadw cofnod o gŵynion rhieni. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori ysgolion i wneud hynny, yn eu harweiniad i lywodraethwyr Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion: Cylchlythyr Rhif 011/2012.

Rhaid i ysgolion unigol gael polisi cwyno cyhoeddedig, sy’n amlinellu ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion sut i gwyno, a sut bydd yr ysgol yn ymdrin â’r cwynion hyn. Gallai polisïau gwrth-fwlio ysgolion roi manylion ynglŷn â sut bydd cwynion am fwlio yn cael eu rheoli hefyd.

Bydd gan awdurdodau lleol bolisïau cyhoeddedig hefyd, sy’n rheoli sut mae’n rhaid i’w wasanaethau gofnodi ac ymateb i gŵynion. Gallai’r rhain ofyn i ysgolion gynnal cofnod o gŵynion gan rieni hefyd. Fodd bynnag, bydd pob awdurdod lleol wedi penderfynu ar ei pholisi ei hun yn y maes hwn.

Dim ond pan fydd achwynydd yn anfodlon â’r ffordd y mae’r ysgol wedi delio â’r gŵyn y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â chwyn gan rieni, ac yn ei chyfeirio at yr awdurdod.

Rydym ni’n cael cwynion gan rieni yn aml. Fodd bynnag, nid oes gennym y pwerau i ymchwilio i’r rhain. Yn hytrach, rydym ni’n cynghori’r achwynydd i godi’r mater yn ysgrifenedig gyda’r ysgol yn gyntaf, wedyn os nad yw’n fodlon, gyda’r awdurdod lleol. Os bydd yr achwynydd yn parhau i fod yn anfodlon o hyd, yna gall godi’r mater gyda’r ombwdsmon awdurdodau lleol.

Os oes gennych gŵyn am ysgol neu ddarparwr addysg a hyfforddiant arall, dylech godi eich pryderon â’r darparwr, yn y lle cyntaf. Nid ydym yn rhagweld nac yn mynd i’r afael â chwynion am weithgareddau ysgolion neu ddarparwyr unigol. I ddechrau, dylech fynegi eich pryderon yn ffurfiol trwy weithdrefn gwyno’r ysgol. Os byddwch yn anfodlon o hyd ar yr adeg honno, dylech godi’ch cŵyn â’r Cyfarwyddwr Addysg neu’r swyddog cyfwerth yn yr awdurdod lleol.

Dysgwch fwy am ein gweithdrefn ymdrin â chwynion